Bondio Cyfansawdd
Hafan > Triniaethau > Bondio Cyfansawdd
Bondio cyfansawdd yw’r ateb cosmetig lleiaf ymyrrol (invasive) a ddefnyddir i wella edrychiad eich gwên. Mae’n cynnwys rhoi deunydd resin lliw dannedd yn uniongyrchol ar y dannedd, sy’n cael ei siapio’n ofalus, ei galedu gyda golau arbennig, a’i loywi i gyd-fynd yn berffaith â'ch dannedd naturiol.
Gellir cwblhau'r driniaeth hon mewn un ymweliad ac fel arfer nid oes angen tynnu fawr ddim o enamel naturiol eich dannedd. Mae'n opsiwn amlbwrpas ar gyfer cywiro amrywiaeth o broblemau cosmetig, gan gynnwys:
- Ymylon sydd wedi torri neu wisgo
- Bylchau bach rhwng dannedd
- Dannedd sydd wedi colli lliw neu staenio
- Dannedd afreolaidd eu siâp neu anwastad
- Camliniadau bychain
Manteision Bondio Cyfansawdd
- Nid yw’n driniaeth ymyrrol iawn – yn aml nid oes angen unrhyw ddrilio na phigiadau.
- Canlyniadau cyflym – fel arfer gellir ei wneud mewn un apwyntiad yn unig.
- Ymddangosiad naturiol – rydym yn dewis deunydd sy’n cyd-fynd â lliw eich dannedd i greu edrychiad naturiol.
- Fforddiadwy – mwy cost-effeithiol nag argaenau (veneers) neu goronau.
- Gellir ei ddadwneud - nid ydym yn tynnu llawer o enamel, os o gwbl, felly gellir ei addasu neu ei ddisodli os oes angen.
Pethau i’w hystyried
Mae bondio cyfansawdd yn llai gwydn na choronau neu argaenau porslen ac efallai y bydd angen ei atgyweirio neu ei ddisodli ar ôl sawl blwyddyn.
Gall y deunydd resin staenio dros amser, yn enwedig os ydych yn yfed coffi, gwin coch, yn ysmygu, neu gyda rhai bwydydd.
Mae cynnal hylendid y geg ac archwiliadau deintyddol rheolaidd yn hanfodol i gynnal y canlyniadau.
Mae bondio cyfansawdd yn ffordd wych o wella'ch gwên yn gyflym ac yn fforddiadwy, wrth gadw'ch dannedd naturiol yr un pryd. Mae'n ddewis ardderchog i gleifion sy'n chwilio am welliannau cynnil heb ymrwymo i driniaeth fwy helaeth.