Mewnblaniadau Deintyddol
Hafan > Triniaethau > Mewnblaniadau Deintyddol
Cyfle i Adfer Eich Gwên gyda Mewnblaniadau Deintyddol yng Ngofal Deintyddol Tara Martin
Yng Ngofal Deintyddol Tara Martin, rydym yn falch o gynnig mewnblaniadau deintyddol fel datrysiad parhaol, naturiol ar gyfer disodli dannedd coll. P'un a ydych yn colli un dant, sawl dant, neu angen amnewid rhes gyfan, gall mewnblaniadau deintyddol adfer swyddogaeth ac estheteg eich gwên gyda chanlyniadau parhaol.
Mae mewnblaniad deintyddol yn bostyn titaniwm sy'n cael ei osod trwy lawdriniaeth yn asgwrn yr ên, gan ddarparu gwreiddyn artiffisial. Unwaith mae’r mewnblaniad wedi integreiddio gyda’r asgwrn (trwy broses o’r enw osseointegreiddiad), mae’n cynnig sylfaen cryf a sefydlog er mwyn gosod coron, pont neu ddaint gosod arno.
Pam dewis mewnblaniadau deintyddol?
- Parhaol a diogel - Caiff mewnblaniadau eu gosod yn sownd yn eu lle ac maent yn gweithredu yn union fel dannedd naturiol.
- Cynnal iechyd yr asgwrn – Maent yn atal asgwrn yr ên rhag dirywio, sy’n gallu digwydd pan fo dannedd ar goll.
- Gwella ymddangosiad a hyder – Adfer edrychiad a theimlad eich gwên naturiol.
- Maent yn gweithredu’n well – Gallwch fwyta, siarad, a gwenu’n hawdd – nid ydynt yn symud o gwmpas nac yn anghysurus fel dannedd gosod.
- Dim llawer o waith cynnal a chadw – Rydych yn gofalu amdanynt fel eich dannedd naturiol trwy frwsio, fflosio ac ymweld â’r deintydd yn rheolaidd.
Yn eich ymgynghoriad, byddwn yn asesu iechyd eich ceg a dwysedd eich esgyrn i sicrhau bod mewnblaniadau yn addas i chi. Rydym yn gweithio'n agos gyda llawfeddygon y geg a labordai deintyddol medrus i ddarparu profiad didrafferth a chysurus – o’r cam cynllunio i'r broses osod derfynol.
P'un a ydych chi'n edrych i ailosod un dant neu’n gobeithio adfer eich holl ddannedd, bydd ein tîm yn eich tywys bob cam o'r ffordd gyda gofal personol a thriniaeth arbenigol.
Gall mewnblaniadau deintyddol yng Ngofal Deintyddol Tara Martin adfer eich hyder, eich cysur ac ansawdd eich bywyd. Trefnwch ymgynghoriad heddiw i ddysgu mwy!
Cwestiynau Cyffredinol Am Fewnblaniadau Deintyddol
Mae llawer o opsiynau eraill ar gael ar gyfer ailosod dannedd, gan gynnwys pontydd a dannedd gosod.
Fodd bynnag, ni fydd yr un o'r rhain yn cynnig yr un cryfder a gwydnwch â mewnblaniadau esthetig.
Bydd pob opsiwn yn cael ei drafod gyda chi yn ystod eich ymgynghoriad, a’r deintydd yn dod o hyd i'r driniaeth iawn i chi.
Mae mewnblaniadau yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o bobl os ydynt yn gyffredinol iach a bod iechyd eu ceg yn dda.
Bydd hyn yn cael ei drafod yn drylwyr yn eich ymgynghoriad cychwynnol.
Efallai y byddwn yn gofyn am sgan CBCT i gael darlun cliriach o fàs eich esgyrn.
Os bydd y sgan yn dangos eich bod wedi colli asgwrn, gallwn drafod opsiynau grafftio esgyrn gyda chi.
Gall y broses gyfan, o’r ymgynghoriad â'r deintydd a fydd yn gyfrifol am y mewnblaniad i osod eich dannedd newydd gymryd sawl mis.
Bydd y llawdriniaeth mewnblannu ei hun yn digwydd yn y feddygfa yn gymharol gyflym.
Mae angen tua 3+ mis ar y mewnblaniadau eu hunain i wella ac integreiddio â'r asgwrn cyn i ni sicrhau'r goron barhaol.
Mae mewnblaniadau deintyddol yn para tua 10-15 mlynedd ar gyfartaledd, gan olygu mai dyma’r driniaeth ddelfrydol ar gyfer ailosod dannedd. Gallant bara'n hirach o lawer, hyd yn oed am oes, os ydych yn gofalu amdanynt yn dda.
Mae hyn yn golygu eu cynnal trwy ddefnyddio brws dannedd trydan a fflosio, mynychu apwyntiadau gwirio rheolaidd gyda'ch deintydd ac ymweld â'r hylenydd yn rheolaidd.
Mae'r gost am un mewnblaniad deintyddol yn dechrau o £2,500. Byddai costau ychwanegol o £500 ar gyfer graffito esgyrn.
Rydym yn falch o gynnig ffyrdd o ledaenu costau eich triniaeth ddeintyddol a’i gwneud yn fwy fforddiadwy, fel talu dros y 6 mis ym mhob apwyntiad. Byddai hyn yn cael ei nodi yn eich cynllun trin.
- Mewnblaniadwr profiadol gyda dros 2 flynedd o brofiad mewn gosod mewnblaniadau
- Dros 14 mlynedd o brofiad mewn gwaith adferol
- Prifysgol deintyddiaeth mewnblaniadau ôl-raddedig Salford / cwblhau llawer o gyrsiau ôl-raddedig uchel eu parch.
- Mae deintydd mewnblannu ar gael 6 diwrnod yr wythnos, gan gynnwys dydd Sadwrn!



