Gwynnu Dannedd
Hafan > Triniaethau > Gwynnu Dannedd
Gwasanaeth Gwynnu Dannedd Proffesiynol yng Ngofal Deintyddol Tara Martin
Yng Ngofal Deintyddol Tara Martin, credwn fod pawb yn haeddu gwên hyderus, braf. Dyma pam ein bod yn cynnig gwasanaeth gwynnu dannedd diogel ac effeithiol i'w ddefnyddio gartref gan ddefnyddio platiau gwynnu wedi'u dylunio'n benodol ar gyfer eich gwên chi.
Mae ein system gwynnu yn caniatáu i chi loywi eich dannedd o gysur eich cartref, gan barhau i elwa o ganlyniadau proffesiynol. Ar ôl apwyntiad cyflym a syml lle byddwn yn cymryd argraffiadau manwl o'ch dannedd, byddwn yn creu eich platiau unigryw i sicrhau bod eich dannedd yn gwynnu’n gyfartal yn y ffordd fwyaf gysurus bosib.
Byddwch yn derbyn cyflenwad o gel gwynnu o ansawdd ynghyd â chyfarwyddiadau clir ar sut i'w ddefnyddio. Mae'r rhan fwyaf o gleifion yn gweld canlyniadau amlwg mewn ychydig ddyddiau yn unig, gyda chanlyniadau llawn fel arfer yn dod i’r amlwg mewn tua phythefnos.
P'un a ydych chi'n paratoi ar gyfer digwyddiad arbennig neu’n dymuno gwella eich gwên bob dydd, mae ein platiau gwynnu gartref yn ffordd gyfleus a fforddiadwy o roi sglein ar eich gwên.
Pam defnyddio ein platiau gwynnu?
- Gel gwynnu o gryfder proffesiynol
- Platiau wedi’u dylunio’n benodol ar eich cyfer i ffitio’n berffaith
- Caredig ar eich dannedd a’ch deintgig (gums)
- Canlyniadau amlwg mewn cyn lleied ag wythnos
- Gwasanaeth gwynnu cyfleus a hyblyg sy’n gweddu i’ch amserlen chi
Gallwn eich helpu i ganfod gwên fwy gloyw a hyderus. Rhowch ganiad i ni heddiw i drefnu eich ymgynghoriad neu gofynnwch am ein dewisiadau gwynnu yn ystod eich ymweliad nesaf.