Triniaethau Deintyddol Cyffredinol
Hafan > Triniaethau > Triniaethau Deintyddol Cyffredinol
Yng Ngofal Deintyddol Tara Martin, rydym yn cynnig ystod gynhwysfawr o wasanaethau deintyddol cyffredinol i’ch helpu i gynnal gwên iach a phrydferth sy’n gweithio i chi. P'un a oes angen gofal arferol neu driniaeth arnoch ar gyfer problem ddeintyddol benodol, mae ein tîm profiadol yma i ddarparu gofal proffesiynol sydd wedi'i deilwra i'ch anghenion.
Ymgynghoriadau Cleifion Newydd
Rydym ni wrth ein bodd yn cwrdd â chleifion newydd! Mae eich ymweliad cyntaf yn gyfle i ni ddod i'ch adnabod chi a'ch gwên. Yn ystod eich ymgynghoriad, byddwn yn cynnal archwiliad llawn o'ch dannedd, eich deintgig a’ch gên, yn trafod unrhyw bryderon neu nodau sydd gennych, ac yn creu cynllun triniaeth bersonol os oes angen. Mae'n ffordd hamddenol, heb bwysau, o ddechrau eich taith gyda ni.
Archwiliadau Arferol
Mae archwiliadau rheolaidd yn hollbwysig i gynnal iechyd y geg. Mae'r ymweliadau hyn yn caniatáu i ni fonitro'ch dannedd a'ch deintgig, canfod unrhyw broblemau'n gynnar – fel pydredd neu glefyd y deintgig – a chynnig cyngor i'ch helpu i gynnal gwên iach. Fel arfer, rydym yn argymell archwiliad bob 6 mis, ond gall hyn amrywio yn dibynnu ar eich anghenion unigol.
Apwyntiadau Hylendid Deintyddol
Mae gwên iach yn dibynnu at ddeintgig iach. Mae ein hylenyddion yn darparu gwasanaeth glanhau proffesiynol i gael gwared ar blac, deintgen (tartar), a staeniau arwyneb, gan adael eich dannedd yn teimlo'n ffres ac yn llyfn. Rydym hefyd yn cynnig cyngor wedi'i deilwra ar frwsio, fflosio, a deiet i'ch helpu i gynnal hylendid rhagorol rhwng ymweliadau.
Apwyntiadau Brys
Gall poen deintyddol neu drawma fod yn ofidus, ac rydym ni’n deall y brys. Rydym ni’n cynnig apwyntiadau brys ar yr un diwrnod lle bynnag y bo’n bosib ar gyfer problemau fel dannoedd (toothache), heintiadau, chwyddiadau, dannedd sydd wedi torri, neu lenwadau sydd wedi disgyn allan. Ein nod yw lleddfu eich poen a’ch helpu i wella mor gyflym a chyfforddus â phosib.
Llenwadau Lliw Dannedd
Os yw dant wedi'i ddifrodi gan bydredd neu draul, gallwn ei adfer gan ddefnyddio llenwadau cyfansawdd (lliw dannedd). Mae'r llenwadau modern hyn yn wydn, yn cymysgu'n naturiol â'ch dannedd, ac yn golygu tynnu llai o strwythur dannedd iach o'u cymharu â llenwadau metel traddodiadol. Maent yn ffordd syml ond effeithiol o ddod â chryfder a strwythur yn ôl i'ch gwên.
Coronau a Phontydd
Pan fydd dant wedi torri'n wael, wedi'i lenwi'n drwm, neu wedi'i wanhau, gall coron (cap wedi'i wneud yn bwrpasol) adfer ei siâp, ei gryfder a'i ymddangosiad. Os ydych chi’n colli un neu fwy o’ch dannedd, gall pont lenwi'r bwlch trwy angori dant ffug i'r dannedd cyfagos. Mae'r ddwy driniaeth wedi'u dylunio i edrych a theimlo'n naturiol, gan eich helpu i gnoi, siarad a gwenu'n hyderus.
Tynnu Dannedd
Er ein bod bob amser yn anelu at achub dannedd lle gallwn, weithiau eu tynnu yw’r dewis gorau - er enghraifft, os ydynt wedi pydru yn ddifrifol, os oes haint neu os oes gormod o ddannedd yn y geg. Rydym ni’n sicrhau bod y broses mor gyfforddus â phosibl, gyda digon o gyngor a gofal ar ôl y driniaeth i’ch helpu i wella.
Tynnu Dannedd yn Llawfeddygol (gan gynnwys cilddannedd olaf neu wisdom teeth)
Efallai y bydd rhai dannedd, yn arbennig eich cilddannedd olaf (wisdom teeth), na fyddant yn tyfu’n iawn neu bydd angen proses fwy cymhleth i’w tynnu allan. Yn yr achosion hyn, rydym yn cynnig gwasanaeth tynnu dannedd llawfeddygol mewn lleoliad diogel a rheoledig. Mae ein tîm yn ofalus iawn er mwyn sicrhau eich bod yn gyfforddus ac yn cael gwybodaeth lawn cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth.
Dannedd gosod
Mae dannedd gosod yn ffordd ddibynadwy a fforddiadwy o ddisodli dannedd coll. Rydym yn cynnig dannedd gosod llawn a rhannol, wedi'u gwneud yn bwrpasol i ffitio'ch ceg yn ddiogel ac yn gyfforddus. Mae ein dannedd gosod modern yn edrych yn fwy naturiol ac yn haws i'w gwisgo nag erioed, gan eich helpu i fwyta, siarad a gwenu'n hyderus.
Triniaeth Sianel y Gwreiddyn (Root Canal)
Os bydd nerf dant yn mynd yn heintiedig neu'n llidus (yn aml oherwydd pydredd dwfn neu drawma), gall triniaeth sianel y gwreiddyn eich arbed rhag gorfod ei dynnu. Mae'r driniaeth hon yn cynnwys tynnu'r meinwe heintiedig, glanhau tu mewn i'r dant, a'i selio i atal problemau pellach. Gyda thechnegau modern a gofal ysgafn, nid yw’r driniaeth hon bellach yn brofiad poenus fel y credir yn aml.