Estheteg yr Wyneb
Hafan > Triniaethau > Estheteg yr Wyneb
Estheteg yr Wyneb yng Ngofal Deintyddol Tara Martin
Yng Ngofal Deintyddol Tara Martin, credwn y dylai edrych ar eich gorau deimlo'r un mor naturiol â gwenu. Yn ogystal â gofal deintyddol arbenigol, rydym yn cynnig triniaethau esthetig i'ch helpu i deimlo'n ffres ac yn hyderus yn eich ymddangosiad.
Caiff ein triniaethau eu cynnal mewn amgylchedd diogel, clinigol gan weithwyr proffesiynol profiadol sy'n deall celf a gwyddoniaeth strwythur yr wyneb. Gan ddefnyddio cynhyrchion o'r radd flaenaf yn unig, rydym yn darparu canlyniadau naturiol sy'n gwella - nid yn newid - eich nodweddion unigryw.
Pigiadau Gwrth-rychau (Botox)
Mae mân linellau a rhychau yn rhan naturiol o heneiddio, ond nid oes angen iddynt ddiffinio eich edrychiad. Rydym ni’n cynnig triniaethau Botox® i lyfnhau llinellau deinamig a achosir gan ystumiau'r wyneb megis:
- Crychau’r talcen
- Crychau gwgu (rhwng yr aeliau)
- Traed brain neu crow’s feet (o gwmpas y llygaid)
Mae Botox yn gweithio trwy ymlacio'r cyhyrau targedig yn ysgafn, gan roi golwg llyfnach ac ieuengach i'ch croen – heb iddo edrych fel ei fod wedi rhewi nac wedi’i orwneud. Mae'r driniaeth yn gyflym, nid yw’n ymyrrol iawn, ac mae'r canlyniadau fel arfer yn para 3-4 mis.
Llenwyr y Croen
Wrth i ni heneiddio, mae ein croen yn colli cyfaint a hydwythedd. Mae llenwyr y croen yn ffordd effeithiol o adfer cyfaint, diffinio cyfuchliniau wyneb, a meddalu crychau dyfnach. Rydym yn defnyddio llenwyr o’r ansawdd uchaf i sicrhau canlyniadau hardd a pharhaol.
Dyma’r rhannau mwyaf cyffredin o’r corff yr ydym ni’n eu trin â llenwyr:
- Gwefusau (ar gyfer cyfaint a diffiniad)
- Plygiadau nasolabial (crychau o'r trwyn i'r geg)
- Llinellau marionette (llinellau o'r geg i'r ên)
- Bochau a llinell yr ên (i adfer strwythur a chodi)
P’un a ydych chi’n chwilio am fân welliannau neu adfywiad amlwg, byddwn yn teilwra eich triniaeth i sicrhau’r canlyniadau mwyaf naturiol.
Pam dewis Estheteg y Croen yng Ngofal Deintyddol Tara Martin?
- Triniaeth gan weithwyr proffesiynol hyfforddedig mewn lleoliad clinigol, hylan
- Ymgynghoriadau a chynllun triniaeth personol
- Cynhyrchion premiwm dibynadwy i sicrhau diogelwch ac effeithiolrwydd
- Canlyniadau cynnil, naturiol sy'n ategu eich nodweddion
- Ffocws ar gysur a gofal ôl-driniaeth